News

18 December 2020 / Club News

Return to Community Rugby Update

Following the latest Welsh Government update, the Tier 4 measures announced this week by First Minister Mark Drakeford include a suspension of all community sport in Wales from Monday 28 December. This includes every level of community rugby in Wales.

The WRU continues to work towards the phased return of community rugby in Wales and continues to work closely with the National Sport Group, established to oversee the response of sports in Wales to the current pandemic.

With this in mind, a series of recommendations have been agreed by the WRU’s Community Board and approved by the full WRU Board, to be implemented when conditions allow, in consultation with the National Sport Group.

These include:
- The re-introduction of an element of contact rugby and some form of competition with modified laws and regulations, starting with Premiership and Championship clubs. Clubs in those divisions will be contacted before this phase is sanctioned and given a six weeks’ training period before any level of competitive contact rugby is authorised. When Welsh Government guidelines allow, all other levels of the game in Wales will be able to resume touch rugby within the current guidelines and will be given six weeks’ notice before the contact rugby phase is rolled out further.

- The Welsh Rugby Union is still very confident that some form of competitive community rugby will take place in Wales before the end of the current season, and has decided to extend the current season beyond May 2021 to ensure every effort is made to allow this to happen.

- However, the decision has been reached that National League rugby will not take place this season. This covers all male and female senior and youth WRU National Leagues and as a result there will be no promotion or relegation this season; current league status will be carried into next season.

WRU Community Director Geraint John said, “We are working hard with all partners to bring some form of competitive community rugby back before the end of the season and we feel this plan reflects that. We are acutely aware how much people are missing rugby. We also know that our clubs, who have been fantastic throughout this public health crisis, continue to face challenges. We have heard loud and clear their concerns about people potentially leaving the game during this enforced change to all our rugby lives.

“However, we need to bring the game back safely and sustainably when Welsh Government guidelines allow. These new measures have been submitted by our Community Game Board and have the approval of the National Sporting Group and the full WRU Board. We want to provide clarity to our clubs and the people who make up our game in Wales. Whilst we acknowledge this not a return to normal, it signposts a route back to competitive rugby.”

WRU Operations Director Julie Paterson added, “We continue to work closely with Welsh Government and other partner bodies to progress with our Return to Community Rugby plan and bring rugby back safely.. These measures, and particularly the phased return to contact rugby, are important milestones on our journey, and hopefully the extension of the season will provide us with a further step back to full fitness.”


Yn dilyn y diweddariad gan Lywodraeth Cymru, mae’r mesurau Haen 4 a gyhoeddwyd yr wythnos yma gan y Prif Weinidog Mark Drakeford yn cynnwys atal pob math o chwaraeon cymunedol yng Nghymru o ddydd Llun Rhagfyr 28 ymlaen. Mae hyn yn cynnwys pob lefel o rygbi cymunedol yng Nghymru.

Cadarnhaodd Undeb Rygbi Cymru heddiw y bydd yn parhau i weithio tuag at ddychwelyd rygbi cymunedol yn raddol yng Nghymru, ar ôl iddo barhau i weithio’n agos gyda’r Grŵp Chwaraeon Cenedlaethol a sefydlwyd i oruchwylio ymateb chwaraeon yng Nghymru i’r pandemig.

Gyda hyn mewn golwg, mae Bwrdd Cymunedol Undeb Rygbi Cymru wedi cytuno ar gyfres o argymhellion, i’w weithredu pan yn addas, sydd wedi cael eu cymeradwyo gan Fwrdd llawn yr Undeb.

Mae’r rhain yn cynnwys:
- ailgyflwyno elfen o rygbi cyffwrdd a rhyw fath o gystadleuaeth gyda rheolau a rheoliadau wedi’u haddasu, gan ddechrau gyda chlybiau’r Uwch Gynghrair a’r Bencampwriaeth. Bydd clybiau yn yr adrannau hynny’n cael eu cysylltu cyn i’r cyfnod hwn yn cael ei hawdurdodi ac yn cael cyfnod hyfforddi o chwe wythnos cyn bod unrhyw lefel o rygbi cyffwrdd cystadleuol yn cael ei hawdurdodi. Pan fydd canllawiau Llywodraeth Cymru yn caniatáu hynny, bydd pob lefel arall o’r gêm yng Nghymru yn gallu ailddechrau rygbi cyffwrdd o fewn y canllawiau presennol a byddant yn cael chwe wythnos o rybudd cyn i’r cam rygbi llawn gael ei gyflwyno ymhellach.

- Mae Undeb Rygbi Cymru yn dal yn hyderus iawn y bydd rhyw fath o rygbi cymunedol cystadleuol yn cael ei gynnal yng Nghymru cyn diwedd y tymor presennol, ac mae wedi penderfynu ymestyn y tymor presennol y tu hwnt i fis Mai 2021 i sicrhau bod pob ymdrech yn cael ei gwneud i ganiatáu i hyn ddigwydd.

- Fodd bynnag, mae penderfyniad wedi’i wneud na fydd rygbi’r Gynghrair Genedlaethol yn digwydd y tymor hwn. Mae hyn yn cynnwys holl Gynghreiriau Cenedlaethol Undeb Rygbi Cymru i ddynion a merched ar lefel uwch ac ieuenctid ac, o ganlyniad, ni fydd timau’n cael dyrchafiad nac yn cwympo’r tymor hwn; bydd eu statws cynghrair presennol yn cael ei drosglwyddo i’r tymor nesaf.

Dywedodd Geraint John, Cyfarwyddwr Cymunedol Undeb Rygbi Cymru, “Ry’n ni’n gweithio’n galed gyda’r holl bartneriaid i ddychwelyd i ryw fath o rygbi cymunedol cystadleuol yn ôl cyn diwedd y tymor ac ry’n ni’n teimlo bod y cynllun hwn yn adlewyrchu hynny. Ry’n ni wir yn ymwybodol o faint mae pobl yn gweld eisiau rygbi. Ry’n ni hefyd yn gwybod bod ein clybiau, sydd wedi bod yn esiampl ardderchog yn ystod yr argyfwng iechyd hwn, yn dal yn wynebu heriau. Mae eu pryderon ynglŷn â’r posibilrwydd o bobl yn rhoi’r gorau i’r gêm yn ystod y cyfnod hwn, lle mae bywyd rygbi pawb wedi gorfod newid, yn gwbl glir.

“Fodd bynnag, mae angen i ni ddod â’r gêm yn ôl yn ddiogel ac yn gynaliadwy pan fydd canllawiau Llywodraeth Cymru yn caniatáu hynny. Mae’r mesurau newydd hyn wedi cael eu cyflwyno gan Fwrdd y Gêm Gymunedol ac mae’r Grŵp Chwaraeon Cenedlaethol a Bwrdd Llawn yr Undeb wedi’u cymeradwyo. Ry’n ni’n awyddus i roi eglurder i’n clybiau ac i’r bobl sy’n rhan o’n gêm yng Nghymru. Er ein bod yn cydnabod nad yw hyn yn dychwelyd i bethau fel yr oedden nhw, mae’n dangos llwybr yn ôl at rygbi cystadleuol.”

Ychwanegodd Julie Paterson, Cyfarwyddwr Gweithrediadau’r Undeb, “Rydyn ni’n parhau i weithio’n agos gyda Llywodraeth Cymru a chyrff partner eraill i fwrw ymlaen gyda’n cynllun Dychwelyd i Rygbi’r Gymuned, ac i ddod â rygbi’n ôl yn raddol ac yn ddiogel. Mae’r mesurau hyn, ac yn enwedig y camau i ddychwelyd yn raddol i rygbi llawn, yn gerrig milltir pwysig ar ein taith a gobeithio y bydd ymestyn y tymor yn gam arall tuag at ddychwelyd i ffitrwydd llawn.”

There doesn't appear to be any tagged photos.

Upload and Tag Photos

Comment
You must be signed in to add comments
Comments