News

21 January 2021 / Club News

WRU Status Update - 21 January 2021

CONTENTS

  1. CEO comment
  2. Back in the game
  3. More recognition for WRU disability rugby provision
  4. 100K for Hobbs
  5. Coaching the coaches
  6. Rugby news
  • PODCAST FOCUSES ON WALES WOMEN
  • FEATURE: NADINE GRIFFITHS
  • CARMARTHEN ATHLETIC HOST VACCINATION CENTRE
  • FINALLY… REMEMBERING HADYN MORRIS

 

CYM:

  1. Sylw’r Prif Swyddog Gweithredol
  2. Yn ôl i’r gêm
  3. Mwy o gydnabyddiaeth am ddarpariaeth rygbi anabledd URC
  4. 100km i Hobbs
  5. Hyfforddi'r Hyfforddwr
  6. Newyddion Rygbi
  • PODLEDIAD YN FFOCYSU AR FERCHED CYMRU
  • SBOTOLAU: NADINE GRIFFITHS
  • CANOLFAN FRECHU YNG NGHLWB RYGBI CARMARTHEN ATHLETIC
  • YN OLAF…COFIO HADYN MORRIS

 

1. CEO comment

The WRU is undertaking a period of transition with the recently announced departure of three Executive Board members where we must continue to plan for the future.

It was confirmed last week that our Operations Director, Julie Paterson, will be leaving her role after more than 30 years of service with the WRU. She leaves with our full support, we wish her well and we look forward to continuing to work closely with Julie in her new role as director of rugby for the Six Nations.

Julie’s announcement, together with the recent departure of our Performance Director, Ryan Jones, provides us with the opportunity to revisit how best we deliver the WRU Strategy in this very important area of our game. We’ll explore different structures and options available to us and, once agreed, then select a candidate or candidates to execute the agreed strategy.

The third member of the Executive Board to be leaving us will be our Commercial Director, Craig Maxwell, who is also heading to the Six Nations. Craig will leave us sooner than Julie – who will assist the handover during the six- month notice period – so I can confirm that our commercial affairs will, on an interim basis, come under the charge of Rhodri Lewis, our current Group General Counsel.

We are also delighted to confirm we will be offering Gethin Jenkins the position of defence coach with the Wales national side. We are in the process of putting the paperwork in place to confirm the appointment but are happy to share the news that Gethin is Wayne Pivac’s chosen candidate after an excellent performance in the role during the recent Autumn Nations Cup.

Finally, there are a number of other ‘live’ issues currently being discussed in global rugby circles and, of course, a key focus for us will continue to be the return to play of our community game. These issues are challenging and include the Global Season, the potential of private equity investment in the Six Nations, the British & Irish Lions tour of South Africa, the evolution of the PRO14 plus the increased pandemic protocols now expected of us to allow the forthcoming Six Nations tournament to be played. I will continue to keep those with a vested interest in our game up to date as and when Welsh Rugby has important and relevant contributions to share on these issues.

In this our first Status Update of 2021 I would like to repeat my promise to you, our member clubs, the lifeblood of Welsh Rugby, to keep you regularly updated on all matters as we face the challenges of the year ahead together.

Yours in rugby
Steve Phillips.



2. Back in the game

If you have lost work due to the pandemic and have a connection to Welsh rugby the School of Hard Knocks (SOHK) is here to help.
We have teamed up with the SOHK charity to help individuals get ‘Back in the Game’ and into employment.
The SOHK charity has a team of experts who will deliver a series of free, intensive courses, run online and new course dates have been announced in February and April.
The course is suitable for anyone connected with Welsh rugby who has been made redundant due to the covid pandemic – male or female players, coaches, referees, volunteers or parents of players. This course could give members of the rugby family the boost they need to bounce back into the job market.
More info: https://community.wru.wales/2020/09/07/wru-and-sohk-help-get-rugby-family-back-in-the-game/


3. More recognition for WRU disability rugby provision

Welsh rugby has made great strides in its efforts to become more inclusive towards young people and adults with additional needs, even with the challenges 2020 has brought. WRU Disability Rugby coordinator Darren Carew has provided a series of Jersey For All (at home) videos packed with activities to do in your home or garden, the first WRU Inclusion Coaching Conference was held – online – and the Union has now been shortlisted for Disability Sport Wales’ Insport Organisation of the Year Award. Due to the current restrictions, the awards will now take place later in the year, watch this space.

Having launched its first Disability Rugby strategy in 2018 and achieved Disability Sport Wales’ insport ribbon and bronze equality awards the same year, the Welsh Rugby Union gained the silver standard last November 2019 and is now going for gold. READ all about WRU’s Disability Rugby progress here: https://community.wru.wales/article/going-for-inclusive-gold/


 

4. 100k for Hobbs

More than 300 members of Rhiwbina Rugby Club are running 100k this month in support of club legend Dai Hobbs.
Club vice-chair Hobbs, who has embarked on the biggest fight of his life having started chemotherapy for pancreatic cancer, is widely recognised as the true lifeblood of the Cardiff club having fulfilled many key roles and helped the club grow to be one of the largest and most successful clubs in Wales.
When word got out of Hobbs’ devastating diagnosis over Christmas, there was an immediate desire from all concerned to do whatever they could. A running challenge was decided upon which has since captured the hearts, minds and bodies of the whole community.
Former player, parent and junior coach Harry Trelawny explained, “We have around 250 runners in the what’s app group for the challenge which is providing so much motivation for each other – and for Dai who we’ve added to the group. Players who have never run any distance in their lives are regularly completing 5k and even 10k runs. We even have runners taking part in places like Holland and Canada. We have around eight people spending a lot of their own time running the organisation of the challenge – just because they want to do something for Dai - and our current running total is £23 000. Next month, the mini and junior players are going to join in, running 1k a day and we feel that if we can do this under the current restrictions, we should keep going. Who knows, the target of 100k miles in a month could turn into a target of raising £100k! We are currently raising money for two charities close to Dai’s heart – School of Hard Knocks and MIND Cardiff and we are looking to extend that list. We also want to keep going as the physical and mental benefits to our players and runners are proving to be life-changing.”

Former Rhiwbina captain Nick Howell added, “Throughout my playing days and since, Dai has been at the very heart of the club’s success, on and off the pitch. He would be the one ringing players during the week, making sure we had players for the firsts, seconds, thirds and even a fourth team at one stage. He has basically been full-time on a voluntary basis at the club since his early retirement. He helped us gain funding to build our own changing rooms and a small gym; he could be found cleaning or pitch painting during the week and was determined the club should retain a strong social element. He was always at the heart of that in the clubhouse after matches and he has always been relentless himself when it comes to fundraising. His kindness and humour transcends not just the rugby club but the whole community. Everyone who has anything to do with the sports and recreation club knows Dai, even if they aren’t linked to rugby at all. We all just want to do him justice and help him to stay strong in his battle. We know he would be doing it for any one of us.”



5. Coaching the coaches
Legendary All Blacks coach Graham Henry once famously said: “No matter what level you are at, coaching is a challenge.” It’s a sentiment Scott Sneddon would probably agree with.
After all, not many people would travel 14 hours just to make a session with colleagues on the inaugural High Performance Coach programme, but the former Cross Keys, Glamorgan Wanderers and Cardiff fly half did just that – more than once – and he was prepared to do it again but unfortunately COVID-19 intervened.
The High Performing Coach programme sits at level 4 on the WRU coach development framework and aims to provide coaches with a learning programme that fosters critical thinking alongside creativity in the coaching process.
More (long read): https://community.wru.wales/article/sneddons-hong-kong-adventure-pays-off/


 

6. Rugby News

PODCAST FOCUSES ON WALES WOMEN
We focus on Wales women, an international heading for the Ospreys next season and one of the rising stars in this week’s Welsh Rugby Union Podcast. We speak to Wales Women’s captain Siwan Lillicrap after their New Year camp, Ospreys coach Toby Booth on the 60-cap rule and Dragons centre Aneurin Owen.
Listen here: https://www.wru.wales/audio/welsh-rugby-union-podcast-02-2021/

FEATURE: NADINE GRIFFITHS
During a 12-year playing career Nadine Griffiths won 44 international caps, represented the famous Nomads and featured in European Championships and a Rugby World Cup – but her proudest moment in the sport has been the establishment of the Cardiff Blues Community Foundation.
Griffiths has dedicated more than 30 years of her life to rugby, first as one of the founding members of the first official women’s team of Cardiff RFC and then a champion of the sport, capturing the hearts and minds of thousands throughout the region.
The Cardiff Blues Community Foundation Director grew up in Pencoed playing hockey to county level and competing as a Welsh Schools javelin thrower. Her family had always been rugby enthusiasts and her brother Geoff played at county level and in the Premiership for Llanharan during the 1990s
More: https://community.wru.wales/2021/01/12/nadine-putting-wealth-of-experience-to-good-use/

CARMARTHEN ATHLETIC HOST VACCINATION CENTRE
“We are desperate to get back to normal and playing rugby when it’s safe to do so, but at this time of crisis we had to step forward,” says Carmarthen Athletic chairman Wynne Jones.
“We will continue to do whatever we can to help.”
The west Wales club has certainly played a huge part in developing future stars for Welsh rugby and now it is doing similar in helping the fight against the Covid-19 pandemic.
From January 18, Carmarthen Athletic’s clubhouse has been taken over as a venue for Covid-19 vaccinations.
Furnace House Surgery in the centre of Carmarthen contacted patients over 80 years of age inviting them to make an appointment to get their vaccinations.
The doses are now being administered at Carmarthen Athletic which offers more space for social distancing.
More: https://community.wru.wales/2021/01/20/carmarthen-athletic-steps-up-to-help-covid-19-vaccination-programme/

FINALLY… REMEMBERING HADYN MORRIS
Haydn Morris, the former Cardiff and Wales wing who toured South Africa with the 1955 British & Irish Lions has died at the age of 92 in Norwich.
The Mountain Ash-born Morris won three caps for Wales on the wing and scored two tries. His international debut came in Paris in an 8-3 defeat to the French in the final game of the 1951 Five Nations Championship.
More: https://www.wru.wales/2021/01/obituary-haydn-morris/

CYM:

DIWEDDARIAD STATWS 21/1/2021



1.       Sylw’r Prif Swyddog Gweithredol
Mae URC yn ymgymryd â chyfnod pontio yn dilyn y cyhoeddiad diweddar fod tri aelod o'r Bwrdd Gweithredol wedi camu yn ôl, mae'n rhaid i ni barhau i gynllunio ar gyfer y dyfodol.
Cadarnhawyd yr wythnos diwethaf y bydd ein Cyfarwyddwr Gweithrediadau, Julie Paterson, yn gadael ei rôl ar ôl mwy na 30 mlynedd o wasanaeth gydag URC. Mae'n gadael gyda'n cefnogaeth lawn, dymunwn yn dda iddi ac edrychwn ymlaen at barhau i weithio'n agos gyda Julie yn ei rôl newydd fel cyfarwyddwr rygbi ar gyfer pencampwriaeth y Chwe Gwlad.  
Ond gydad unrhyw newid daw cyfle newydd ac mae gennym nawr gyfle unigryw i ailedrych ar ein hymagwedd at y sector hwn o fusnes URC. Gydag ymadawiad diweddar ein Cyfarwyddwr Perfformiad, Ryan Jones, mae gennym gyfle yn awr i ddod o hyd i ymgeisydd neu ymgeiswyr ar gyfer y ddwy rôl. Ein bwriad yw cadw meddwl agored am unrhyw strwythur newydd yn seiliedig ar yr opsiynau sydd ar gael i ni.
Y trydydd aelod o'r Bwrdd Gweithredol i'n gadael bydd ein Cyfarwyddwr Masnachol, Craig Maxwell, a fydd hefyd yn gweithio i bencampwriaeth y Chwe Gwlad. Bydd Craig yn ein gadael yn gynt na Julie - a fydd yn cynorthwyo'r trosglwyddiad yn ystod y cyfnod rhybudd o chwe mis - felly gallaf gadarnhau y bydd ein materion masnachol, dros dro, yn nwylo Rhodri Lewis, Cwnsler Cyffredinol y Grŵp.
Rydym hefyd yn falch iawn o gadarnhau y byddwn yn cynnig swydd hyfforddwr amddiffynnol i Gethin Jenkins gydag ochr genedlaethol Cymru. Mae’r gwaith papur yn cael ei roi yn ei le ar gyfer cadarnhau'r penodiad, ond rydym yn hapus i rannu'r newyddion mai Gethin yw'r ymgeisydd a ddewiswyd gan Wayne Pivac ar ôl perfformiad rhagorol yn y rôl yn ystod Cwpan Cenhedloedd yr Hydref
Yn olaf, mae nifer o faterion 'byw' eraill yn cael eu trafod ar hyn o bryd mewn cylchoedd rygbi byd-eang ac, wrth gwrs, y prif ffocws i ni fydd i’r gêm gymunedol allu ail-ddechrau. Mae'r materion hyn yn heriol ac yn cynnwys y Tymor Byd-eang, buddsoddiad posib yn y Chwe Gwlad mewn ffurf ecwiti preifat, taith Llewod Prydain ac Iwerddon o Dde Affrica, esblygiad y PRO14 ynghyd â'r protocolau cynyddol oherwydd y pandemig presennol a ddisgwylir ohonom er mwyn caniatáu y bydd modd cynnal pencampwriaeth y Chwe Gwlad. Byddaf yn parhau i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r rheini sydd â diddordeb yn ein gêm yn ogystal â phan fydd gan Rygbi Cymru gyfraniadau pwysig a pherthnasol i'w rhannu ar y materion hyn.
Yn ein Diweddariad Statws cyntaf yn 2021 hoffwn ailadrodd fy addewid i chi, ein clybiau sy'n aelodau, sydd wrth galon Rygbi Cymru, y byddaf yn darparu’r wybodaeth ddiweddaraf i chi'n rheolaidd am bob mater wrth i ni wynebu heriau'r flwyddyn i ddod gyda'n gilydd.
Yr eiddoch mewn rygbi
Steve Phillips.


 

2.       Yn ôl i’r gêm
Os ydych wedi colli eich gwaith oherwydd y pandemig a bod gennych gysylltiad â Rygbi Cymru mae Ysgol y Cnociau Caled (YYCC) yma i helpu.
Rydym wedi gweithio gydag elusen YYCC i helpu unigolion i’w cael 'Yn ôl i’r gêm' ac i mewn i gyflogaeth.
Mae gan elusen YYCC dîm o arbenigwyr a fydd yn darparu cyfres o gyrsiau dwys am ddim, sy'n cael eu rhedeg ar-lein ac mae dyddiadau cyrsiau newydd wedi'u cyhoeddi ar gyfer mis Chwefror a mis Ebrill.
Mae'r cwrs yn addas ar gyfer unrhyw un sy'n gysylltiedig â Rygbi Cymru sydd wedi cael eu diswyddo oherwydd y pandemig – chwaraewyr, hyfforddwyr, canolwyr, gwirfoddolwyr neu rieni i chwaraewyr. Gallai'r cwrs hwn roi hwb i unrhyw un, â diddordeb mewn rygbi, yn ôl i gyflogaeth.
Mwy o wybodaeth: https://community.wru.wales/2020/09/07/urc-a-yycc-yn-cynorthwyoi-gael-teulu-rygbi-yn-ol-ir-g%c8%87m/


 

3.       Mwy o gydnabyddiaeth am ddarpariaeth rygbi anabledd URC
Mae Rygbi Cymru wedi ymdrechu’n ddiwyd i ddod yn fwy cynhwysol tuag at bobl ifanc ac oedolion ag anghenion ychwanegol, hyd yn oed gyda'r heriau a ddaeth yn sgil 2020. Mae cydlynydd Rygbi Anabledd URC, Darren Carew, wedi darparu cyfres o fideos Crys i Bawb (yn y cartref) sy'n llawn gweithgareddau i'w gwneud yn eich cartref neu'ch gardd. Cynhaliwyd Cynhadledd Hyfforddi Gynhwysol gyntaf URC - ar-lein - ac mae'r Undeb bellach ar y rhestr fer ar gyfer Gwobr Sefydliad y Flwyddyn Insport Chwaraeon Anabledd Cymru. Oherwydd y cyfyngiadau presennol, bydd y gwobrau'n cael eu cynnal yn ddiweddarach yn y flwyddyn.
Ar ôl lansio ei strategaeth Rygbi Anabledd gyntaf yn 2018, a derbyn gwobrau rhuban a efydd am gydraddoldeb gan Insport Chwaraeon Anabledd Cymru yn yr un flwyddyn, enillodd Undeb Rygbi Cymru'r y wobr arian fis Tachwedd 2019 ac mae bellach yn anelu am yr aur.
DARLLENWCH y cyfan am gynnydd Rygbi Anabledd URC yma: <https://community.wru.wales/article/going-for-inclusive-gold/>


 

4.       100km ar gyfer Hobbs
Mae mwy na 300 o aelodau Clwb Rygbi Rhiwbeina yn rhedeg 100km mis yma i gefnogi Dai Hobbs.
Mae Hobbs, is-gadeirydd y clwb, wedi dechrau ar frwydr fwyaf ei fywyd ar ôl dechrau triniaeth cemotherapi ar gyfer canser y pancreas, yn cael ei gydnabod fel calon clwb Caerdydd. Mae wedi cyflawni llawer o rolau allweddol ac wedi helpu'r clwb i dyfu i fod yn un o’r clybiau mwyaf o ran maint ac o ran llwyddiannau yng Nghymru.
Pan ddaeth y newydd am ddiagnosis Hobbs dros y Nadolig, roedd pawb yn awyddus i helpu a gwneud beth bynnag y gallent. Penderfynwyd ar her rhedeg sydd wedi denu sylw a chalonnau’r gymuned gyfan.
Eglurodd y cyn chwaraewr, y rhiant ac hyfforddwr y adran iau Harry Trelawny, "Mae gennym tua 250 o redwyr yng ngrŵp WhatsApp yr her sy'n help i roi hwb i bawb - ac i Dai sydd wedi ei ychwanegu at y grŵp. Bydd chwaraewyr nad ydynt erioed wedi rhedeg unrhyw bellter yn eu bywydau yn cwblhau rhediadau 5km a hyd yn oed 10km yn rheolaidd. Rydym hyd yn oed yn cael rhedwyr yn cymryd rhan yn yr Iseldiroedd a Chanada. Mae gennym tua wyth o bobl yn treulio llawer o'u hamser eu hunain yn trefnu’r her - dim ond am eu bod am wneud rhywbeth dros Dai - ac hyd yn hyn rydym wedi casglu £23 000. Yn y mis sydd i ddod, bydd y chwaraewyr bach ac iau yn ymuno, gan redeg 1k y dydd a theimlwn, os gallwn wneud hyn o dan y cyfyngiadau presennol, y dylem barhau. Pwy a ŵyr, gallai'r targed o 100km mewn mis droi'n darged o godi £100mil? Ar hyn o bryd rydym yn codi arian ar gyfer dwy elusen sy’n agos at galon Dai - Ysgol y Cnociau Caled a MIND Caerdydd ac rydym yn awyddus i ychwanegu at y rhestr honno. Rydym hefyd am barhau a’r her gan fod y manteision corfforol a meddyliol i'n chwaraewyr a'n rhedwyr yn newid bywydau."
Ychwanegodd cyn-gapten Rhiwbeina, Nick Howell, "Drwy gydol fy nyddiau chwarae ac ers hynny, mae Dai wedi bod wrth wraidd llwyddiant y clwb, ar y cae ac oddi arno. Ef fyddai'n ffonio’r chwaraewyr yn ystod yr wythnos, gan sicrhau bod gennym chwaraewyr ar gyfer y tîm cyntaf, yr ail dîm, y trydydd tîm a hyd yn oed pedwerydd tîm ar un adeg. Yn y bôn, mae wedi bod yn gwirfoddoli llawn amser yn y clwb ers iddo ymddeol yn gynnar. Bu’n gymorth wrth gael cyllid i adeiladu ein hystafelloedd newid a champfa fach ein hunain; gellid dod o hyd iddo'n glanhau neu baentio’r llinellau ar y cae yn ystod yr wythnos ac roedd yn benderfynol y dylai'r clwb gadw elfen gymdeithasol gref. Roedd bob amser wrth wraidd hynny yn y clwb ar ôl gemau ac mae bob amser wedi bod yn ddi-baid o ran codi arian. Mae ei garedigrwydd a'i hiwmor yn mynd y tu hwnt nid yn unig i'r clwb rygbi ond i'r gymuned gyfan. Mae pawb sydd ag unrhyw beth i'w wneud â'r clwb yn adnabod Dai, hyd yn oed os nad ydynt yn gysylltiedig â rygbi o gwbl. Yr ydym i gyd am wneud cyfiawnder ag ef a'i helpu i aros yn gryf yn ei frwydr. Rydyn ni'n gwybod y byddai'n ei wneud i unrhyw un ohonom."


 

5. Hyfforddi'r Hyfforddwyr
Dywediad sy’n aros mewn cof gan Graham Henry, hyfforddwr y Crysau Duon, yw: "Ta waeth ar ba lefel ydych chi, mae hyfforddi yn her." Mae'n deimlad y byddai Scott Sneddon yn cytuno ag ef, mae'n debyg.
Wedi'r cyfan, nid pawb fyddai'n teithio 14 awr er mwyn cynnal sesiwn agoriadol ar gyfer rhaglen Hyfforddwr Perfformiad Uchel, ond fe wnaeth cyn-faswr Cross Keys, Glamorgan Wanderers a Chaerdydd hynny - fwy nag unwaith - ac roedd yn barod i'w wneud eto ond yn anffodus ymyrrodd COVID-19.
Mae'r rhaglen Hyfforddwr Perfformiad Uchel yn eistedd ar lefel 4 fframwaith datblygu hyfforddwyr URC a'i nod yw darparu rhaglen i addysguhyfforddwyr sy'n meithrin meddwl beirniadol ochr yn ochr â chreadigrwydd yn y broses hyfforddi.
Mwy: https://community.wru.wales/article/sneddons-hong-kong-adventure-pays-off/


 

6.       Newyddion Rygbi

PODLEDIAD YN CANOLBWYNTIO AR FERCHED CYMRU
Rydym yn canolbwyntio ar ferched Cymru, chwaraewr rhyngwladol yn anelu am y Gweilch y tymor nesaf ac un o'r sêr ym Podlediad URC yr wythnos hon. Rydym yn siarad â chapten Merched Cymru Siwan Lillicrap ar ôl iddynt ddod at ei gilydd am y tro cyntaf eleni. Byddwn hefyd yn siarad â hyfforddwr y Gweilch Toby Booth ar y rheol 60 cap a chanolwr y Dreigiau Aneurin Owen.
Gwrandewch yma: https://www.wru.wales/audio/welsh-rugby-union-podcast-02-2021/

SBOTOLAU: NADINE GRIFFITHS
Yn ystod gyrfa yn chwarae yn ymestyn dros 12 mlynedd enillodd Nadine Griffiths 44 o gapiau rhyngwladol, cynrychioli'r tîm enwog y Nomadiaid a chwarae ym Mhencampwriaethau Ewrop a Chwpan Rygbi'r Byd – ond yr hyn mae hi fwyaf balch ohono yw sefydlu Cardiff Blues Community Foundation.
Mae Griffiths wedi neilltuo dros 30 mlynedd o'i bywyd i rygbi, yn gyntaf fel un o aelodau sefydlu tîm merched swyddogol cyntaf Clwb Rygbi Caerdydd ac yna'n bencampwr yn y gamp, gan gipio calonnau a meddyliau miloedd ledled y rhanbarth.
Cafodd ei magu ym Mhencoed yn chwarae hoci i’r sir ac yn cystadlu yn y javelin i Ysgolion Cymru. Bu ei theulu erioed yn selogion rygbi a chwaraeodd ei brawd Geoff i’r sir ac yn Uwch Gynghrair Llanharan yn ystod y 1990au
Mwy: https://community.wru.wales/2021/01/12/nadine-putting-wealth-of-experience-to-good-use/

CANOLFAN FRECHU YNG NGHLWB RYGBI CARMARTHEN ATHLETIC
"Rydyn ni'n awyddus iawn i ddychwelyd i normal a chwarae rygbi pan mae'n ddiogel gwneud hynny, ond ar hyn obryd yn ystod y pandemig bu'n rhaid i ni gamu ymlaen," meddai cadeirydd Clwb Rygbi Carmarthen Athletic Wynne Jones.
"Byddwn yn parhau i wneud beth bynnag a allwn i helpu."
Mae’r clwb yn sicr wedi chwarae rhan enfawr wrth ddatblygu sêr y dyfodol ar gyfer Rygbi Cymru ac mae nawr yn serennu fel clwb wrth helpu'r frwydr yn erbyn pandemig Covid-19.
O 18 Ionawr, bydd brechiadau Covid-19 yn cael eu darparu yn adeilad y clwb rygbi.
Cysylltodd Meddygfa Furnace House yng nghanol Caerfyrddin â chleifion dros 80 oed yn eu gwahodd i wneud apwyntiad i gael eu brechiadau.
Mae'r dosau bellach yn cael eu gweinyddu yn Carmarthen Athletic sy'n cynnig mwy o le ar gyfer ymbellhau cymdeithasol.
https://community.wru.wales/2021/01/20/carmarthen-athletic-steps-up-to-help-covid-19-vaccination-programme/

YN OLAF... COFIO HADYN MORRIS
Mae Haydn Morris, cyn-asgellwr Caerdydd a Chymru a deithiodd o amgylch De Affrica gyda Llewod Prydain ac Iwerddon 1955 wedi marw yn 92 oed yn Norwich.
Enillodd Morris, a aned yn Aberpennar, dri chap i Gymru ar yr asgell a sgoriodd ddau gais. Chwaraeodd ei gem ryngwladol gyntaf ym Mharis gan golli 8-3 i'r Ffrancwyr yng ngêm olaf Pencampwriaeth Pum Gwlad 1951.
https://www.wru.wales/2021/01/obituary-haydn-morris/

There doesn't appear to be any tagged photos.

Upload and Tag Photos

Comment
You must be signed in to add comments
Comments