News

20 November 2020 / Club News

WRU Status Update - 18 November 2020

CONTENTS:

1.     Chairman’s comment

2.     Meet Rob Butcher

3.     Abrahams and Taylor to coach Wales Women

4.     Sign up to AmazonSmile to help WRCT

5.     The return of Principality Stadium

6.     Coach education continues

7.     Boost for Welsh rugby as clubs welcome supporters back - safely

8.     Live rugby TV coverage in your club

9.     Rugby News

CAREW ‘NO REGRETS’

CLWB RYGBI PROVIDING FOOD FOR THOUGHT FOR ALL

OBITUARY: IAN FORD

FINALLY… ONE CAP OR 50, THEY’RE ALL PRECIOUS

CYM

Cynnwys

1.     Sylw'r Cadeirydd

2.     Cwrdd â Rob Butcher

3.     Abrahams a Taylor i hyfforddi Merched Cymru

4.     Cofrestrwch gydag AmazonSmile i helpu Ymddiriedolaeth Elusennol Rygbi Cymru

5.     Dychwelyd i Stadiwm y Principality

6.     Addysg i hyfforddwyr yn parhau

7.     Hwb i Rygbi Cymru wrth i glybiau groesawu cefnogwyr yn ôl - yn ddiogel

8.     Darlledu rygbi byw yn eich clwb

9.     Newyddion Rygbi

CAREW 'DIM DIFARU'

CLWB RYGBI YN DARPARU BWYD I’R GYMUNED

COFFÂD: IAN FORD

YN OLAF... UN CAP NEU 50, MAEN NHW I GYD YN WERTHFAWR

 

1.     Chairman’s comment

It gives me great pleasure to write to you today as chairman of the Welsh Rugby Union.

I’m delighted and humbled to be in this position. So many people encouraged me and showed faith in me along the way that the sheer weight of evidence out there, that people had confidence in me, led me to make my bid for the chairmanship and I intend to fully reward that faith.

I hope to meet as many member clubs as possible during my tenure and there are many of you I know already, but to those of you I have yet to meet, let me formally introduce myself.

Bargoed rugby club is most certainly my home.  I may have left this valley many times over the years but it has never left me. Once my playing days were over I served for 21 years as secretary and I’m now a life member of the club.

I’ve enjoyed a variety of experiences around Welsh rugby at District level on the way to joining the WRU Board five years ago.  My attitude since day one on the Board has been to embrace the privilege and, quite simply, I’ve covered as much as possible during my time to date.  Along the way I was asked to be vice-chair of both the community committee and the performance sub-committee and, after some governance change, I was delighted to be chosen to chair the Community Game Board (CGB). 

I have viewed that Board (the CGB) as my family and am very proud of the work we have undertaken and our achievements to date. We haven’t always agreed on the way ahead and there have been some healthy debates on many subjects, but we have always progressed and moved forward and we will continue to address the challenges ahead in a progressive way.

My style is not dictatorial, I’m a great listener and I genuinely care about people. 

I have a collaborative approach and I believe the best decisions are reached only after a variety of views have been aired and listened to. I’ve been in positions all my life where I’ve been able to look at leadership and I am someone who is constantly learning from others.  I learn something new every day and I intend to take on the best characteristics of those around me and those who have gone before me.

On this subject I’ve always hugely valued the strength individual relationships.  I’m extremely passionate about the relationships I’ve established in the game already and I speak to as many people as possible at every opportunity to find out how they work

I believe this personal touch has been repaid by the faith that has been shown in me to fulfil this role. I’m not in it for anything else but to do my very best for Welsh rugby and I believe Steve (Phillips) and his executive staff take the same approach.

I know my relationship with my CEO will be instrumental to our success and progress and I will take this extremely seriously.  It is my role to challenge and make sure our executive are held accountable for strategy. We already have a strong working relationship and I have equally strong relationship with the different members of our executive who, without exception, take great pride in all that they do and achieve.

My mantra is that we all have the responsibility to do the right thing for both rugby and for the Welsh communities in which we operate. We know what we can do, but we should also always ask ourselves what should we do?

I am proud of the comments we made as the WRU at the start of this journey through the pandemic. 

We addressed our 300-plus member clubs and told them that we would do everything we could to get everybody through to the other side of this situation intact. This is a difficult task, but I genuinely believe we have the right skills at our disposal to achieve. 

Our member clubs, who are the heartbeat of our game, are striving for survival themselves but they also know that the professional game needs to be success in order for us to improve the chances of long term sustainability for all.  We are all in this together and, most importantly, this self-awareness is there throughout our game.

 

2.     Meet Rob Butcher:

New chairman Robert Butcher has reflected on his journey from Bargoed to the boardroom as he assumes the chair of the Welsh Rugby Union.

In an interview with WRUTV, he talks about the ‘humbling’ moment he won the chairmanship and explains why his tenure will initially only span a one-year term.

After 21-years as secretary to Bargoed Rugby Club, and being awarded lifetime membership, Butcher joined the WRU Board in 2015.  He promptly joined both the community rugby committee and performance sub-committee as vice-chair in each case, as well as taking on a variety of other roles including a place on the rugby committee of World Rugby.

When the WRU modernised its governance structure in 2019 he was selected to chair the Community Game Board and regularly attends Professional Rugby Board sessions as a result.

Although his public profile outside of the corridors of power at the WRU has been limited to date, he quickly emerged as one of the front runners after the chairman’s position became vacant. He puts this down to the time he has invested in establishing strong relationships throughout the game:

“We need to be fit and agile as a Board and able to move as conditions change,” said Butcher, explaining his approach to the chairmanship which has so appealed to his supporters.

“For me change is a continuum and one good example of this is the recent decision the Board made on the tenure of its chairman.  Before I was voted in we discussed the prospect of the successful candidate sitting for three, two or a one year term.

“The Board concluded that, at a time of great change in the game, a one-year term would be most appropriate on this occasion, with a view to revisiting the decision in 12-months’ time. 

“I think this is a great example of the Board adapting to the circumstances it is presented with.

“It’s a decision taken that I fully support, something that is not about me, but about what is the best decision for the union.”

More here (NB THIS LINK WILL BE LIVE FROM 2.30PM): https://community.wru.wales/2020/11/18/meet-new-chairman-rob-butcher/

3.     Abrahams and Taylor to coach Wales Women

The Welsh Rugby Union has appointed former USA Women’s Sevens assistant coach Warren Abrahams as full-time Wales Women head coach, and 67-times capped former Wales captain and North Wales academy coach Rachel Taylor as full-time Women's National Skills Coach.

The appointments begin work with immediate effect to put preparations in place for next year’s Rugby World Cup in New Zealand.

South Africa-born Abrahams, who was also part of the England Men’s Sevens coaching team for four year years while fulfilling roles at Harlequins as Academy coach and Premiership 7s head coach prior to heading to America, is also an RFU coach mentor, mentoring aspiring coaches through their coach qualifications. He will be responsible for the planning, implementation and delivery of the coaching programme for both the 15s and 7s international programmes on a three-year contract.

In line with the strategy agreed by the Board, the appointments are part of the WRU’s ongoing commitment to significantly invest in the performance end of the women’s game with further announcements to follow.

WRU CEO Steve Phillips said, “Warren Abrahams and Rachel Taylor are key, strategic appointments for us, not only for women’s rugby in Wales but in terms of our standing in the global game. The current pandemic has impacted all areas of our organisation along with the rest of the sporting and entertainment world. However, it is vital women’s sport isn’t disproportionally affected and we took the important decision to continue with the planned investments into the women’s game.”

Warren Abrahams said, “This is a hugely exciting time to be part of the Wales Women programme and we have an opportunity to do something very special in the next 12 months and beyond.

“For me, mindset is key. Limitations are only what we put on ourselves. I realise that we all have obstacles and challenges to overcome and the current climate is a great example. Our players are balancing a number of aspects of their lives to ensure they perform to their optimum level, however, with all this in mind, if we take responsibility for our own actions, we are already steps ahead.”

Rachel Taylor said, “Having been to three Rugby World Cups as a player, I saw how much the competition developed each time. It’s the pinnacle of women’s international rugby and for these players to have the chance to compete in New Zealand will be amazing on several levels.

“I’m excited to work with Warren. I know he will challenge me as a coach and I believe my experience and skills will help to support his aims too.”

More here: https://www.wru.wales/2020/11/abrahams-named-as-wales-women-head-coach/

 

4.     Sign up to AmazonSmile to help Welsh Rugby Charitable Trust

The Welsh Rugby Charitable Trust, which helps injured rugby players and their families, has registered as a charity which will be supported under the AmazonSmile scheme.

If you think it appropriate please nominate the Trust as a charity which will benefit when you purchase from Amazon.

The WRCT was established in 1972 by former WRU President Sir Tasker Watkins VC to help players who have been severely injured while playing rugby.

In the years since it was created, hundreds of male and female players - from grassroots rugby to the elite game - have been supported by the Trust. Some receive help on a short-term basis where fortunately they have gone on to make good recoveries. But sadly, others have suffered life-changing injuries which have had a devastating impact not only on their lives but on their families.  The Trust is currently supporting a number of men and women, on a long-term basis who have been severely injured playing rugby. All have suffered catastrophic injuries, many so severe that they will never walk again, are paraplegic or tetraplegic, with some having undergone amputations as a direct result of their injuries.

To contribute to the WRCT every time you shop online simply register with AmazonSmile, details here:

If you shop Amazon Black Friday Week deals from 20th - 30th November, you can do more than discover great deals:

Simply shop at smile.amazon.co.uk/ch/502079-0 or with AmazonSmile ON in the Amazon Shopping app, and AmazonSmile donates to Welsh Rugby Charitable Trust at no extra cost.

 

5.     The return of Principality Stadium

Cardiff & Vale Health Board officially announced their exit from Ysbyty Calon y Ddraig. Dragon's Heart Hospital last Wednesday as they hand back Principality Stadium to the Welsh Rugby Union.

Martin Driscoll, Deputy Chief Executive at Cardiff and Vale University Health Board, said: “On behalf of CAVUHB and all of the staff and patients we provide services for, thank you for this incredible feat and for enabling us to reassure our communities we were prepared for whatever the pandemic threw at us, the DHH and its iconic place- the stadium has shown us team sport at its very best and this is true of how everyone responded – Diolch yn Fawr, thank you.”

Steve Phillips, CEO at WRU, said: ‘Being able to offer Principality Stadium to the National Health Service and Welsh Government to assist in the fight against Covid 19 has been a privilege. The Dragon’s Heart Hospital demonstrates the extent of successful collaboration and what can be achieved when people in Wales come together; and I’m extremely proud of the WRU staff who played a key part in the successful development and delivery of the temporary surge hospital within our stadium.

‘We agreed with Cardiff and Vale University Health Board that the stadium was to be handed back to us mid-November and we can now begin work on reinstating the stadium, as we look forward to the Guinness Six Nations in 2021.’

More: https://www.principalitystadium.wales/2020/11/11/cardiff-vale-health-board-formally-hand-back-principality-stadium-to-welsh-rugby-union/

 

6.     Coach education continues

The WRU coach development department has continued to deliver coach education despite the obvious recent challenges.

Due to the coronavirus pandemic and lockdowns, staff had to change the way they deliver courses to help and support coaches especially coaches of younger age groups.

So far, 11 tag courses and 12 early contact courses have been delivered online, free of charge - attended by 390 coaches.

WRU coach development manager Gerry Roberts said:

“We modified the modules to suit an online style of delivery by our staff. We held a pilot for each course back in September with a small group of coaches which was well received. We used zoom to help because of the breakout function that can be used for group work learning. In recent months, online courses have worked very well. We have had some great feedback with coaches saying they enjoyed the content and the breakout room tasks we set.

“There are more free, online courses available and we are looking to add level one and refereeing courses in the same way.”

All the information on courses can be found on the game locker: https://www.wrugamelocker.wales

 

7.     Boost for Welsh rugby as clubs welcome supporters back - safely

Many community clubs across Wales are glad to welcome supporters back into clubhouses to support Wales this autumn.

Many clubs have been closed for much of the year due to the storms and then the impact of the coronavirus pandemic, with local and national lockdowns affecting their off-field operations. However, the easing of restrictions in Wales following the Firebreak lockdown has given Welsh Rugby a much-needed boost.

Working to Welsh Government guidelines, many clubs are keen to open their doors so that supporters can watch Wales’ Autumn Cup games together, news that will boost club finances and provide a much-needed morale lift for fans.

Mike Prosser, Barry RFC Chairman said, "It was an absolute breath of fresh air to open our club house last Friday and to sit in each other’s company, have a quiet pint or two and watch the Wales v Ireland game. Thankfully the result did not detract from the enjoyment had by all.

"We are living in a time that we will hopefully never see again so we have to make the most of this and abide by the rules.

"I would like to thank the management committee members and bar staff at the club who have worked so hard to put all the protection measures in place inside the clubhouse and for the continued support of our members. It is not financially viable to open the clubhouse on a regular basis but will be opening every Saturday for a socially distanced get together."

Welsh Government guidance in relation to hospitality venues broadcasting Wales’ autumn internationals includes:

  • Controlled entry – keep walk-ups to a minimum and use booking systems wherever possible. The rule of thumb for time slots is two hours. However, in the case of TV broadcasts, venues might consider it safer for some people to complete the broadcast rather than encouraging multiple bookings at different premises within a local community.
  • Maintain 2 metres between each group of people where possible
  • Keep broadcast sound levels at background level to avoid customers having to raise their voices to be heard
  • Avoid shouting, dancing or singing
  • Increase ventilation by opening windows and doors (not fire doors)
  • Ensure physical distance where up to four people from different households are sat together

For further guidance, visit: https://www.ukhospitality.org.uk/page/WalesGuidance

 

8.     Live TV coverage in your club

Amazon Prime Video – Autumn Nations Cup 2020

CLICK HERE FOR FREE ACCESS TO AMAZON PRIME VIDEO:

https://skyforbusiness.sky.com/sb/portal/business/uk/campaigns/rugby

Member clubs can broadcast Autumn Nations Cup matches live through Amazon Prime and S4C at all licensed premises for no additional cost.

The Amazon offer will provide free of charge live coverage via the dedicated Prime Video channel over the Sky Television platform.

The coverage on Amazon Prime Video includes all remaining matches in the tournament involving Wales, with a Welsh language broadcast simultaneously on S4C.

To register for the Amazon Prime offer, clubs should follow the link provided above to the Sky Business website – Sky Business, where further contact details are provided for the registration process.

Please note, that current non-Sky customers will need a Sky HD box and active viewing card to be able to receive the Prime Video broadcast. If you do not have a viewing card, one can be provided free of charge when you contact Sky.

The WRU thanks both Amazon and S4C for their continued support of Welsh rugby and its member clubs.

We appreciate that clubhouse premises will be planning for broadcasting the Autumn Nations Cup to meet with current Welsh Government Hospitality guidelines.

We would, however, recommend that if you have any concerns or queries on the guidelines, clubs access the Welsh Government Hospitality guidance document available on the UK Hospitality website. (a link is provided at the end of point 4. Above).

2019/2020 Premier Sports WRU Club Offer Subscription

Clubs that have the latest WRU annual club offer for 2019/20, will now have their Premier Sports subscription extended until the 14th February 2021.

The original subscription was due to end in September 2020, but due to the postponement of the Guinness PRO14 during the initial lockdown period, Premier Sports has agreed to extend the current subscription by the months lost with no PRO14 rugby. Please note, this also includes a further two-week extension for the recent Welsh Government ‘Firebreak’.

As the extended subscription will now end in February 2021, it is mindful that clubs will need to renew their subscription to broadcast the closing rounds of the 2020/21 season. These clubs will

therefore be offered a discounted rate of £70 a month for the period of 14th February - May 2021.

If clubs wish to take advantage of the monthly ‘end of season’ offer, you will need to contact Premier Sports on the dedicated email address clubhouse@premiersports.com.

As the monthly offer from February 2021 will be direct between the member club and Premier Sports, payment details of the club will need to be provided. We would therefore encourage clubs to contact Premier Sports on the above email to request a call with the team so they can capture the payment details. Ideally, it is recommended that clubs contact Premier Sports in January 2021, so that monthly billing can commence from February 2021 onwards.

New Subscriptions

For clubs that are not currently subscribing to Premier Sports and have an interest in broadcasting the PRO14, you can now take advantage of the £70 monthly rate. To register for the monthly

offer, WRU member clubs can contact Premier Sports direct on clubhouse@premiersports.com . Clubs will also need to provide payment details as this offer is being billed directly between Premier Sports and the club signing up to the offer.

 

9.     Rugby news:

Darren Carew is the WRU’s Disability Rugby Co-ordinator, he has been integral to upskilling the WRU’s workforce in inclusion activities in alignment with the disability rugby strategy

(https://www.wru.wales/2018/03/wru-launches-ambitious-disability-rugby-strategy/).

But he also has an inspiring personal story to tell:

‘Around Remembrance Day when I clean my medals it reminds me they are merely a physical representation of the experiences I have had during my time in the Army, a reminder of the great soldiers I served with, the danger we shared and the bonds we forged in those environments.’

CAREW: ‘NO REGRETS’

This time of year is always important as it is a time to reflect, not only on history and the sacrifices made by our forefathers, but also those who paid the ultimate sacrifice in modern conflicts too.

Rugby has always been my passion and going into the Royal Regiment of Wales gave me an opportunity to be a soldier and a rugby player – so it was like a match made in heaven – and to be honest I flourished with the time in the military and though I parked the rugby to focus on soldiering I found who I wanted to be – grew – and met friends for life.

In 2008, after transferring to 1st The Queen’s Dragoon Guards in 2005, my life changed forever while on patrol in Afghanistan.

I woke up to a different world, the first thing I noticed was a taste of blood in my mouth and the high pitch squeal in my ears, the dust was like a curtain in the back of the vehicle so as the sound in my ears subsided the first thing I heard were the screams from my team, something that still wakes me up in the middle of the night 12 years later.

For me, rugby has helped me a lot to find confidence within myself again.

I didn’t have my leg amputated immediately. I was treated at Headley Court for four years…

Read on here:

https://community.wru.wales/article/darren-carew-ive-no-regrets/

 

CLWB RYGBI PROVIDING FOOD FOR THOUGHT FOR ALL

Despite their nomadic existence, Clwb Rygbi Cymry Caerdydd continue to strengthen their place at the heart of the Cardiff community with their charitable endeavours.

Buoyed by the success of their mammoth running challenge back in May – which sought to connect care home residents and staff around Wales with their families – the club has now set its sights on helping to combat food poverty in the city.

Over the course of the past weekend, members of the club were invited to bring down food and drink – as well as personal hygiene products – to the club’s changing rooms in Pontcanna Fields, with local businesses also encouraged to support and spread the word via social media.

Given its success, there is potential for it to become an annual clarion call to help people in need across the city.

Their cause this year was aided greatly by having 200 children involved in junior training on Sunday – all of whom brought items to donate to the food drive.

More here: https://community.wru.wales/2020/11/17/clwb-rygbis-food-drive-success/

 

OBITUARY: IAN FORD

Whenever the day Newport so famously beat the All Blacks in 1963 is recalled, the contribution of Wales second row Ian Ford, who has died at the age of 91, is inevitably on the lips of everyone who witnessed the 3-0 win at Rodney Parade.

While John Uzzell’s drop goal always takes the headlines, it was the way in which Fordm his second row partner Brian Price and flanker Glyn Davidge stood up to the New Zealanders that laid the foundation for one of the greatest victories in the history of Welsh club rugby.

One of his team mates from that great day, Stuart Watkins, described Ford as a “colossus” for the way in which he stood up to an All Blacks pack containing some of the biggest names in world rugby.

More here: https://www.wru.wales/2020/11/obituary-ian-ford/

 

FINALLY… ONE CAP OR 50, THEY’RE ALL PRECIOUS

Tomas Francis reflects on his 50th cap in Dublin against Ireland in the opening game of the Autumn Nations Cup:

https://www.wru.wales/video/francis-reflects-on-50th-cap/

Bristol Bears fly half Calum Sheedy is full of pride after winning the first of what will surely be many:

https://www.wru.wales/video/sheedy-proud-of-first-wales-cap/

He may have been on the losing side at Parc y Scarlets on his Wales debut against Scotland, but Cardiff Blues back row Shane Lewis-Hughes still looks back with nothing but good memories from the day:

https://community.wru.wales/video/lewis-hughes-reflects-on-first-cap/

And McNicholl will be looking to add to his four, as Botham seeks to break his duck:

https://www.wru.wales/2020/11/wales-call-ups-for-mcnicholl-and-botham/

 

DIWEDDARIAD STATWS URC 18/11/2020

Cynnwys

1. Sylw'r Cadeirydd

2. Cwrdd â Rob Butcher

3. Abrahams a Taylor i hyfforddi Merched Cymru

4. Cofrestrwch gydag AmazonSmile i helpu Ymddiriedolaeth Elusennol Rygbi Cymru

5. Dychwelyd i Stadiwm y Principality

6. Addysg i hyfforddwyr yn parhau

7. Hwb i Rygbi Cymru wrth i glybiau groesawu cefnogwyr yn ôl - yn ddiogel

8. Darlledu rygbi byw yn eich clwb

9. Newyddion Rygbi

CAREW 'DIM DIFARU'

CLWB RYGBI YN DARPARU BWYD I’R GYMUNED

COFFÂD: IAN FORD

YN OLAF... UN CAP NEU 50, MAEN NHW I GYD YN WERTHFAWR

 

1.     Sylw'r Cadeirydd

Mae'n bleser mawr gennyf ysgrifennu atoch heddiw fel cadeirydd Undeb Rygbi Cymru.

Rwy'n falch iawn o fod yn y sefyllfa hon. Mae cynifer o bobl wedi fy annog ac wedi dangos ffydd ynof, yn dystiolaeth fod gan bobl hyder ynof, ac felly wedi fy arwain i wneud fy nghais am y gadeiryddiaeth a bwriadaf wobrwyo'r ffydd hwnnw.

Gobeithiaf gyfarfod â chymaint o glybiau sy'n aelodau ag sy'n bosibl yn ystod fy nghyfnod. Mae sawl un ohonoch yr wyf eisoes yn eu hadnabod, ond i'r rheini ohonoch nad wyf wedi cyfarfod eto, gadewch imi gyflwyno fy hun yn ffurfiol.

Clwb Rygbi Bargoed yn sicr yw fy nghartref. Efallai fy mod wedi gadael y cwm droeon dros y blynyddoedd ond nid yw’r cwm erioed wedi fy ngadael i. Ar ôl i'm dyddiau chwarae ddod i ben, gwasanaethais am 21 mlynedd fel ysgrifennydd ac rwyf bellach ag aelodaeth oes yn y clwb.

Dros y bum mlynedd diwethaf ar fy nhaith i ymuno â Bwrdd Undeb Rygbi Cymru rwyf wedi mwynhau amrywiaeth o brofiadau yn ymwneud â Rygbi Cymru yn fy ardal leol.  Fy agwedd ers y diwrnod cyntaf ar y Bwrdd fu i gofleidio'r fraint ac, yn syml iawn, rwyf wedi ymdrin â chymaint â phosibl yn ystod fy amser hyd yma. Ar hyd y ffordd, gofynnwyd i mi fod yn is-gadeirydd i’r pwyllgor cymunedol ac yn is-gadeirydd i’r is-bwyllgor perfformiad ac, ar ôl rhywfaint o newid llywodraethu, roeddwn wrth fy modd o gael fy newis i gadeirio'r Bwrdd Gemau Cymunedol.

Rwy’n ystyried y Bwrdd Gemau Cymunedol fel teulu, ac rwy'n falch iawn o'r gwaith rydym wedi'i wneud a'n cyflawniadau hyd yma. Nid ydym bob amser wedi cytuno ar y ffordd ymlaen a bu rhai dadleuon buddiol ynglŷn â llawer o bynciau, ond rydym bob amser wedi symud ymlaen a byddwn yn parhau i fynd i'r afael â'r heriau sydd o'n blaenau mewn ffordd flaengar.

Nid yw fy arddull yn unbenaethol, rwy'n wrandäwr mawr ac rwyf wirioneddol yn poeni a gofalu am bobl.

Hoffaf weithio ar y cyd ag eraill, a chredaf mai dim ond ar ôl lleisio a gwrando ar amrywiaeth o safbwyntiau y gwneir y penderfyniadau gorau. Rwyf wedi bod mewn swyddi drwy gydol fy mywyd lle rwyf wedi gallu arsylwi dulliau arwain, ac rwy'n un â ddysgai’n gyson gan eraill. Rwy'n dysgu rhywbeth newydd bob dydd a bwriadaf ymgymryd â nodweddion gorau'r sawl o'm cwmpas a'r rhai sydd wedi mynd o'm blaen.

Ar y pwnc hwn rwyf bob amser wedi gwerthfawrogi cryfder perthynas ag unigolion.  Rwy'n hynod o angerddol am y perthnasau yr wyf eisoes wedi'i sefydlu yn y gêm, ac rwy'n siarad â chymaint o bobl â phosibl ar bob cyfle i ddarganfod sut maen nhw'n gweithio.

Credaf oherwydd yr elfen bersonol yma yr wyf wedi fy ngwobrwyo â ffydd i mi gyflawni’r rôl fel cadeirydd. Rwyf yma am un rheswm - i wneud fy ngorau dros Rygbi Cymru - ac rwy’n credu fod Steve (Phillips) a’i staff gweithredol a'r un credoau.

Rwy'n gwybod y bydd fy mherthynas â'm Prif Swyddog Gweithredol yn allweddol i'n llwyddiant a'n cynnydd a byddaf yn cymryd hyn o ddifrif. Fy rôl i yw herio a sicrhau bod ein gweithrediaeth yn atebol am strategaeth. Mae gennym eisoes berthynas waith cryf, ac mae gennyf berthynas yr un mor gryf â gwahanol aelodau ein gweithrediaeth sydd, heb os, yn ymfalchïo'n fawr yn yr hyn y maent yn ei wneud ac yn ei chyflawni.

Credaf fod gan bob un ohonom y cyfrifoldeb i wneud y peth iawn ar gyfer rygbi a’r cymunedau Cymraeg yr ydym yn gweithredu ynddynt. Gwyddom beth y gallwn ei wneud, ond dylem hefyd ofyn i ni'n hunain beth y dylem ei wneud?

Yr wyf yn falch o'r sylwadau a wnaethom fel URC ar ddechrau'r daith hon drwy'r pandemig.

Aethom i'r afael â dros 300 o’n clybiau sy’n aelodau a’u hysbysu y byddem yn gwneud popeth o fewn ein gallu i gynnal pawb drwy effeithiau’r pandemig. Mae hon yn dasg anodd, ond credaf yn gryf fod gennym y sgiliau cywir er mwyn llwyddo.

Mae ein clybiau sy'n aelodau, sydd wrth galon ein gêm, yn ymdrechu i oroesi eu hunain. Maent hefyd yn gwybod bod angen i'r gêm broffesiynol fod yn llwyddiant er mwyn i ni wella'r siawns o gynaliadwyedd hirdymor i bawb. Yr ydym i gyd yn hyn gyda'n gilydd ac, yn bwysicaf oll, mae'r hunanymwybyddiaeth yno drwy gydol ein gêm.

 

2.     Cwrdd â Rob Butcher:

Mae'r cadeirydd newydd Robert Butcher wedi myfyrio ar ei daith o Fargoed i'r ystafell fwrdd wrth iddo gymryd ei le fel cadeirydd Undeb Rygbi Cymru.

Mewn cyfweliad â WRU TV, mae'n sôn am y foment enillodd y gadeiryddiaeth ac mae'n esbonio pam mai, am y tro, dim ond am flwyddyn y bydd yn y rôl.

Ar ôl 21 mlynedd fel ysgrifennydd Clwb Rygbi Bargoed, a chael aelodaeth oes, ymunodd Butcher â Bwrdd Undeb Rygbi Cymru yn 2015. Y fuan wedi hynny ymunodd â’r pwyllgor rygbi cymunedol a'r is-bwyllgor perfformiad fel is-gadeirydd, yn ogystal ag ymgymryd ag amrywiaeth o rolau eraill gan gynnwys lle ar bwyllgor Rygbi'r Byd.

Pan foderneiddiodd Undeb Rygbi Cymru ei strwythur llywodraethu yn 2019, fe'i dewiswyd i gadeirio'r Bwrdd Gemau Cymunedol ac o ganlyniad mae'n mynychu sesiynau'r Bwrdd Rygbi Proffesiynol yn rheolaidd.

Er bod ei broffil cyhoeddus y tu allan i goridorau pŵer URC wedi bod yn brin hyd yma, daeth i'r amlwg yn gyflym fel un o'r rhedwyr blaen ar ôl i swydd y cadeirydd ddod yn wag. Mae'n rhoi hyn i lawr i'r amser y mae wedi'i fuddsoddi mewn sefydlu perthynas gref drwy gydol y gêm:

"Mae angen i ni fod yn ffit ac yn ystwyth fel Bwrdd a bod yn barod i symud wrth i amodau newid," meddai Butcher, gan esbonio ei ymagwedd at y gadeiryddiaeth sydd wedi apelio cymaint at ei gefnogwyr.

"I mi, mae newid yn gontinwwm. Un enghraifft dda o hyn yw'r penderfyniad diweddar a wnaeth y Bwrdd ar ei gadeirydd. Cyn imi gael fy mhleidleisio i’r rôl, trafodwyd y posibilrwydd y bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn eistedd am dair blynedd, dwy flynedd neu flwyddyn.

"Daeth y Bwrdd i'r casgliad, ar adeg o newid mawr yn y gêm, y byddai tymor o flwyddyn yn fwy priodol y tro hwn, gyda'r bwriad o ailedrych ar y penderfyniad ymhen 12 mis. 

"Rwy'n credu bod hon yn enghraifft wych o'r Bwrdd yn addasu i'r amgylchiadau a gyflwynir iddo.

"Mae'n benderfyniad yr wyf yn ei gefnogi yn llwyr, penderfyniad nad yw'n ymwneud â mi, ond am beth yw'r gorau i'r undeb."

Mwy yma: (NB THIS LINK WILL BE LIVE FROM 2.30PM) https://community.wru.wales/2020/11/18/meet-new-chairman-rob-butcher/

 

3.     Abrahams a Taylor i hyfforddi Merched Cymru

Mae Undeb Rygbi Cymru wedi penodi cyn-hyfforddwr cynorthwyol tîm 7 bob ochr Merched UDA Warren Abrahams fel prif hyfforddwr llawn amser Merched Cymru. Hefyd penodwyd Rachel Taylor fel Hyfforddwr Sgiliau Cenedlaethol llawn amser sydd â 67 cap ac yn gyn capten i dîm Merched Cymru ac yn hyfforddwr academi Gogledd Cymru.

Byddant yn dechrau yn eu swyddi ar unwaith er mwyn gallu paratoi ar gyfer Cwpan Rygbi'r Byd y flwyddyn nesaf yn Seland Newydd.

Ganwyd Abrahams yn Ne Affrica. Roedd yn rhan o dîm hyfforddi Saith bob ochr Dynion Lloegr am bedair blynedd tra hefyd yn cyflawni rolau fel hyfforddwr academi Harlequins a phennaeth uwch gynghrair 7 bob ochr cyn anelu am America. Mae hefyd yn fentor ar gyfer hyfforddwyr ar gyfer RFU ac yn arwain hyfforddwyr drwy eu cymwysterau hyfforddi. Bydd yn gyfrifol am gynllunio, gweithredu a chyflwyno'r rhaglen hyfforddi ar gyfer rhaglenni rhyngwladol gemau 15 bob ochr a 7 bob ochr ar gontract tair blynedd.

Yn unol â'r strategaeth y cytunwyd arni gan y Bwrdd, mae'r penodiadau'n rhan o ymrwymiad parhaus URC i fuddsoddi'n sylweddol yn elfen perfformiad y gêm i ferched gyda chyhoeddiadau pellach i ddilyn.

Meddai Prif Swyddog Gweithredol URC Steve Phillips, "Mae Warren Abrahams a Rachel Taylor yn benodiadau strategol allweddol i ni, nid yn unig i rygbi merched yng Nghymru ond o ran ein statws yn y gêm fyd-eang. Mae'r pandemig presennol wedi effeithio ar bob rhan o'n sefydliad ynghyd â gweddill y byd chwaraeon ac adloniant. Fodd bynnag, mae'n hanfodol i gadw cydbwysedd a sicrhau na chaiff chwaraeon merched ei effeithio, a gwnaethom y penderfyniad pwysig i barhau â'r buddsoddiadau arfaethedig i rygbi merched."

Dywedodd Warren Abrahams, "Mae hwn yn gyfnod hynod gyffrous i fod yn rhan o raglen Merched Cymru ac mae gennym gyfle i wneud rhywbeth arbennig iawn yn y 12 mis nesaf a thu hwnt.

"I mi, mae meddylfryd yn allweddol. Ffiniau personol yw cyfyngiadau. Sylweddolaf fod gan bob un ohonom rwystrau a heriau i'w goresgyn ac mae'r sefyllfa bresennol yn enghraifft wych. Er mwyn sicrhau eu bod yn perfformio i'w lefel orau mae ein chwaraewyr yn cadw cydbwysedd rhwng nifer o agweddau yn eu bywydau. O ystyried hyn, os byddwn yn cymryd cyfrifoldeb am ein yr hyn a wnawn, rydym eisoes ar y blaen."

Meddai Rachel Taylor, "Ar ôl chwarae mewn tri Chwpan Rygbi'r Byd, roeddwn yn dyst i sut yr oedd y gystadleuaeth yn datblygu bob tro. Dyma binacl rygbi rhyngwladol merched ac i'r chwaraewyr hyn gael y cyfle i gystadlu yn Seland Newydd bydd yn anhygoel ar sawl lefel.

"Rwy'n edrych ymlaen at weithio gyda Warren. Rwy'n gwybod y bydd yn fy herio fel hyfforddwr a chredaf y bydd fy mhrofiad a'm sgiliau yn helpu i gefnogi ei amcanion hefyd."

https://www.wru.wales/2020/11/abrahams-named-as-wales-women-head-coach/

 

4.     Cofrestrwch gydag AmazonSmile i helpu Ymddiriedolaeth Elusennol Rygbi Cymru

Mae Ymddiriedolaeth Elusennol Rygbi Cymru, sy'n helpu chwaraewyr rygbi a anafwyd a'u teuluoedd, wedi cofrestru fel elusen a fydd yn cael ei chefnogi o dan gynllun AmazonSmile.

Os credwch ei bod yn briodol, enwebwch yr Ymddiriedolaeth fel elusen a fydd yn elwa pan fyddwch yn prynu o Amazon.

Sefydlwyd Ymddiriedolaeth Elusennol Rygbi Cymru ym 1972 gan gyn-arlywydd URC Syr Tasker Watkins VC i helpu chwaraewyr sydd wedi cael eu hanafu'n ddifrifol wrth chwarae rygbi.

Yn y blynyddoedd ers ei greu, mae cannoedd o chwaraewyr, yn ddynion a merched - o rygbi llawr gwlad i'r gêm elît - wedi cael eu cefnogi gan yr Ymddiriedolaeth. Mae rhai'n cael cymorth ar sail tymor byr lle maent, yn ffodus, wedi cael effaith bositif ar eu gwellhad. Ond yn anffodus, mae eraill wedi dioddef anafiadau sy'n newid bywyd sydd wedi cael effaith ddinistriol nid yn unig ar eu bywydau ond ar eu teuluoedd. Ar hyn o bryd mae'r Ymddiriedolaeth yn cefnogi nifer o ddynion a merched, ar sail hirdymor, sydd wedi cael eu hanafu'n ddifrifol wrth chwarae rygbi. Mae pob un wedi dioddef anafiadau trychinebus, sawl un mor ddifrifol fel na fyddant byth yn cerdded eto, yn colli defnydd eu breichiau ac/neu goesau, gyda rhai yn gorfod cael breichiau neu goesau wedi eu torri i ffwrdd o ganlyniad uniongyrchol i'w hanafiadau.

Er mwyn cyfrannu at Ymddiriedolaeth Elusennol Rygbi Cymru bob tro y byddwch yn siopa ar-lein, cofrestrwch gydag AmazonSmile, manylion yma:

Os ydych chi'n prynu nwyddau yn ystod Wythnos Amazon Black Friday rhwng 20 a 30 Tachwedd, gallwch wneud mwy na darganfod bargeinion gwych:

Siopwch yn smile.amazon.co.uk/ch/502079-0 neu drwy droi AmazonSmile ymlaen yn eich ap Siopa Amazon, a bydd AmazonSmile yn cyfrannu canran o'r gwerthiant i Ymddiriedolaeth Elusennol Rygbi Cymru, am ddim cost ychwanegol.

 

 

5.     Dychwelyd i Stadiwm y Principality

Ddydd Mercher diwethaf, cyhoeddodd Bwrdd Iechyd Caerdydd a'r Fro eu bod gadael Ysbyty Calon y Ddraig, wrth iddynt roi Stadiwm y Principality yn ôl i URC.

Dywedodd Martin Driscoll, Dirprwy Brif Weithredwr Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro: "Ar ran Bwrdd Iechyd Caerdydd a'r Fro a'r holl staff a chleifion yr ydym yn darparu gwasanaethau ar eu cyfer, diolch am ein galluogi i dawelu meddwl ein cymunedau. Roeddem yn barod am beth bynnag a daflodd y pandemig atom ni. Roedd Ysbyty Calon y Ddraig yn ei leoliad eiconig - y stadiwm wedi dangos i ni chwaraeon tîm ar ei orau ac mae hyn yn wir am sut yr ymatebodd pawb - Diolch yn Fawr."

Dywedodd Steve Phillips, Prif Swyddog Gweithredol Undeb Rygbi Cymru: “Mae gallu cynnig Stadiwm y Principality i'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Llywodraeth Cymru i helpu yn y frwydr yn erbyn Covid 19 wedi bod yn fraint. Mae Ysbyty Calon y Ddraig yn dangos y gallu i gydweithio yn llwyddiannus a'r hyn y gellir ei gyflawni pan ddaw pobl Cymru at ei gilydd; ac rwy'n hynod falch o staff URC a chwaraeodd ran allweddol yn y gwaith o ddatblygu a chyflwyno'r ysbyty dros dro yn llwyddiannus yn ein stadiwm.

'Fe wnaethom gytuno â Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro y byddai'r stadiwm yn cael ei throsglwyddo'n ôl i ni ganol mis Tachwedd a gallwn yn awr ddechrau gweithio ar adfer y stadiwm, wrth i ni edrych ymlaen at Chwe Gwlad Guinness yn 2021.'

Mwy yma: https://www.principalitystadium.wales/2020/11/11/cardiff-vale-health-board-formally-hand-back-principality-stadium-to-welsh-rugby-union/

 

6.     Addysg i hyfforddwyr yn parhau

Mae adran datblygu hyfforddwyr URC wedi parhau i ddarparu addysg i hyfforddwyr er gwaethaf yr heriau diweddar.

Oherwydd pandemig y coronafeirws, bu'n rhaid i staff newid y ffordd y maent yn darparu cyrsiau i helpu a chefnogi hyfforddwyr, yn enwedig yr hyfforddwyr ar gyfer timau plant.

Hyd yma, mae 11 cwrs rygbi tag a 12 cwrs rygbi cyswllt wedi'u darparu ar-lein, yn rhad ac am ddim - a fynychwyd gan 390 o hyfforddwyr.

Dywedodd rheolwr datblygu hyfforddwyr URC Gerry Roberts:

"Fe wnaethom addasu'r modiwlau i gyd-fynd â dull darparu ar-lein gan ein staff. Cynhaliwyd cynllun peilot ar gyfer pob cwrs yn ôl ym mis Medi gyda grŵp bach o hyfforddwyr a fu yn llwyddiannus. Defnyddiwyd Zoom ar gyfer y cyrsiau, oherwydd y gallu i rannu yn grwpiau llai. Yn ystod y misoedd diwethaf, mae cyrsiau ar-lein wedi gweithio'n dda iawn. Rydym wedi cael adborth gwych gyda hyfforddwyr yn dweud eu bod wedi mwynhau'r cynnwys a'r tasgau ar gyfer grwpiau llai.

"Mae mwy o gyrsiau ar-lein am ddim ar gael ac rydym yn awyddus i ychwanegu cyrsiau lefel un a chyrsiau dyfarnu yn yr un ffordd."

Mae'r holl wybodaeth ar gyrsiau i'w gweld ar dudalen we Game Locker ar wefan URC:

https://www.wrugamelocker.wales

 

7.     Hwb i Rygbi Cymru wrth i glybiau groesawu cefnogwyr yn ôl - yn ddiogel

Mae llawer o glybiau cymunedol ledled Cymru yn falch o groesawu cefnogwyr yn ôl i'w clybiau i gefnogi Cymru'r hydref hwn.

Mae llawer o glybiau wedi'u cau am y rhan fwyaf o'r flwyddyn oherwydd y stormydd ac yna effaith pandemig y coronafeirws, gyda chyfnodau clô lleol a chenedlaethol yn effeithio ar eu gweithrediadau oddi ar y cae. Fodd bynnag, mae llacio’r cyfyngiadau yng Nghymru ar ôl yr ail gyfnod clô wedi rhoi hwb croesawus i Rygbi Cymru.

Gan ddilyn canllawiau Llywodraeth Cymru, mae llawer o glybiau'n awyddus i agor eu drysau fel y gall cefnogwyr wylio gemau Cymru yn nhwrnament Cwpan yr Hydref, newyddion a fydd yn rhoi hwb i gyllid clybiau ac yn codi ysbryd cefnogwyr.

 

Meddai Mike Prosser, Cadeirydd Clwb Rygbi'r Barri, "Roedd yn braf gallu agor y clwb ddydd Gwener ddiwethaf ac i eistedd yng nghwmni ei gilydd, cael peint tawel neu ddau a gwylio gêm Cymru v Iwerddon. Diolch byth, nid oedd y canlyniad yn tynnu oddi ar y mwynhad a gafodd pawb.

"Rydym yn byw mewn cyfnod na fyddwn byth yn ei weld eto gobeithio, felly mae'n rhaid i ni wneud y gorau o hyn a chadw at y rheolau.

"Hoffwn ddiolch i aelodau'r pwyllgor rheoli a staff y bar yn y clwb sydd wedi gweithio mor galed i roi'r holl fesurau amddiffyn ar waith y tu mewn i'r clwb ac am gefnogaeth barhaus ein haelodau. Nid yw'n ymarferol yn ariannol agor y clwb yn rheolaidd, ond bydd yn agor bob dydd Sadwrn er mwyn i ni allu cymdeithasu mewn modd diogel"

Mae canllawiau Llywodraeth Cymru ar gyfer lleoliadau lletygarwch sy'n darlledu gemau rhyngwladol hydref Cymru yn cynnwys:

 

  • Mynediad dan reolaeth - defnyddiwch systemau archebu lle bynnag y bo modd, cadw’r nifer a ddaw i mewn heb archebu ar y system yn isel. Argymhellir y bydd angen cadw at slot amser o ddwy awr. Fodd bynnag, yn achos darllediadau teledu, gallai lleoliadau ei ystyried yn fwy diogel i rai pobl wylio’r gêm y llawn yn hytrach nag annog sawl archeb mewn gwahanol safleoedd mewn cymuned leol.
  • Cynnal 2 fetr rhwng pob grŵp o bobl lle bo hynny'n bosibl
  • Cadw lefelau sain darlledu ar lefel isel er mwyn osgoi'r angen i gwsmeriaid godi eu lleisiau i gael eu clywed
  • Osgoi gweiddi, dawnsio neu ganu
  • Cynyddu cylchrediad aer drwy agor ffenestri a drysau (nid drysau tân)
  • Sicrhau pellter corfforol lle mae hyd at bedwar o bobl o wahanol aelwydydd yn eistedd gyda'i gilydd

Am ragor o arweiniad, ewch i: https://www.ukhospitality.org.uk/page/WalesGuidance

 

8.     Darlledu rygbi byw yn eich clwb

Amazon Prime Video - Cwpan Cenhedloedd yr Hydref 2020

CLICIWCH YMA I GAEL MYNEDIAD AM DDIM I FIDEO AMAZON PRIME:

https://skyforbusiness.sky.com/sb/portal/business/uk/campaigns/rugby

Gall clybiau sy'n aelodau ddarlledu gemau Cwpan Cenhedloedd yr Hydref yn fyw drwy Amazon Prime ac S4C ym mhob safle trwyddedig heb unrhyw gost ychwanegol.

Bydd cynnig Amazon yn darparu darllediadau byw am ddim drwy sianel bwrpasol Prime Video dros lwyfan Sky Television.

Mae'r darllediadau ar Amazon Prime Video yn cynnwys yr holl gemau sy'n weddill yn y twrnament sy'n cynnwys tîm Cymru, gyda darllediad Cymraeg ar yr un pryd ar S4C.

Er mwyn cofrestru ar gyfer cynnig Amazon Prime, dylai clybiau ddilyn y ddolen a ddarperir uchod i wefan Sky Business - lle darperir manylion cyswllt pellach ar gyfer y broses gofrestru.

Noder, os nad ydych yn gwsmer presennoli Sky, byddwch angen bocs Sky HD a cherdyn gwylio er mwyn gallu manteisio ar ddarllediad Prime Video o’r gemau. Os nad oes gennych gerdyn gwylio, gellir darparu un yn rhad ac am ddim pan fyddwch yn cysylltu â Sky.

Mae URC yn diolch i Amazon ac S4C am eu cefnogaeth barhaus i Rygbi Cymru a'i chlybiau sy'n aelodau.

Rydym yn sylweddoli y bydd clybiau yn cynllunio ar gyfer darlledu Cwpan Cenhedloedd yr Hydref yn unol â chanllawiau lletygarwch cyfredol Llywodraeth Cymru.

Fodd bynnag, byddem yn argymell, os oes gennych unrhyw bryderon neu ymholiadau am y canllawiau, fod clybiau'n edrych ar ddogfen ganllaw Lletygarwch Llywodraeth Cymru sydd ar gael ar wefan Lletygarwch y DU. (darperir linc i’r ddogfen hwn ar ddiwedd pwynt 4. uchod)

 

2019/2020 Cynnig Tanysgrifiad - Premier Sports WRU Club

Bydd clybiau sydd wedi tanysgrifio ar gyfer y cynnig clwb blynyddol diweddaraf URC ar gyfer 2019/20, yn derbyn ymestyniad ar eu tanysgrifiad Premier Sports tan 14 Chwefror 2021.

Roedd y tanysgrifiad gwreiddiol i fod i ddod i ben ym mis Medi 2020, ond gan fod PRO14 Guinness wedi ei ohirio oherwydd y cyfnod clô cychwynnol. O ganlyniad mae Premier Sports wedi cytuno i ymestyn y tanysgrifiad presennol yn unol â'r misoedd a gollwyd heb rygbi PRO14. Noder, mae hyn hefyd yn cynnwys estyniad pythefnos pellach ar gyfer y clô byr diweddara Llywodraeth Cymru.

Gan y bydd y tanysgrifiad estynedig yn dod i ben ym mis Chwefror 2021, mae'n ymwybodol y bydd angen i glybiau adnewyddu eu tanysgrifiad i ddarlledu rowndiau cau tymor 2020/21. Bydd y clybiau hyn felly yn derbyn cynnig cyfradd gostyngedig o £70 y mis ar gyfer y cyfnod rhwng 14 Chwefror a Mai 2021.

Os yw clybiau am fanteisio ar y cynnig misol 'diwedd tymor', bydd angen i chi gysylltu â Premier Sports ar y cyfeiriad e-bost penodedig yma clubhouse@premiersports.com.

Gan y bydd y cynnig misol o fis Chwefror 2021 yn uniongyrchol rhwng y clwb sy’n aelod a Premier Sports, bydd angen darparu manylion talu'r clwb. Felly, byddem yn annog clybiau i gysylltu â Premier Sports ar yr e-bost uchod i ofyn am alwad gan y tîm er mwyn iddynt allu derbyn manylion y taliad. Yn ddelfrydol, argymhellir fod clybiau'n cysylltu â Premier Sports ym mis Ionawr 2021, fel y gall bilio misol ddechrau o fis Chwefror 2021 ymlaen.

Tanysgrifiadau Newydd

Ar gyfer clybiau nad ydynt ar hyn o bryd yn tanysgrifio i Premier Sports ac sydd â diddordeb mewn darlledu'r PRO14, gallwch yn awr fanteisio ar y gyfradd fisol o £70. I gofrestru ar gyfer y

cynnig misol, gall clybiau sy’n aelodau URC gysylltu â Premier Sports yn uniongyrchol ar clubhouse@premiersports.com. Bydd angen i glybiau hefyd ddarparu manylion talu gan fod y cynnig hwn yn cael ei filio'n uniongyrchol rhwng Premier Sports a’r clwb.

 

9.     Newyddion Rygbi:

Darren Carew yw Cydlynydd Rygbi Anabledd URC, mae wedi bod yn rhan annatod o addysgu gweithlu URC mewn gweithgareddau cynhwysiant yn unol â'r strategaeth rygbi anabledd

(https://www.wru.wales/2018/03/wru-launches-ambitious-disability-rugby-strategy/).

Ond mae ganddo stori bersonol ysbrydoledig hefyd i'w hadrodd:

'O gwmpas Diwrnod y Cofio pan fydda i'n glanhau fy medalau mae'n fy atgoffa mai dim ond cynrychiolaeth faterol o'r profiadau rwyf wedi'u cael yn ystod fy amser yn y Fyddin ydynt, ein hatgoffa o'r milwyr mawr y gwasanaethais gyda hwy, y perygl a rannwyd a'r cyfeillgarwch a luniwyd rhyngom yn yr amgylcheddau hynny.'

 

CAREW: 'DIM DIFARU'

Mae'r adeg hon o'r flwyddyn bob amser yn bwysig gan ei bod yn amser i fyfyrio, nid yn unig ar hanes a'r aberth a wnaed gan ein cyndadau, ond hefyd y rhai a dalodd yr aberth eithaf mewn gwrthdrawiadau modern hefyd.

Rwyf wastad wedi bod yn angerddol am rygbi, cefais y cyfle i fod yn filwr ac yn chwaraewr rygbi yn Y Gatrawd Frenhinol Gymreig - felly roedd yn gyfuniad perffaith. I fod yn onest fe wnes i ffynnu yn ystod fy nghyfnod yn y lluoedd arfog ac er i mi gymryd o rygbi i ganolbwyntio ar filwrio, dois i adnabod fy hun - tyfu - a chyfarfod â ffrindiau oes.

Yn 2008, ar ôl trosglwyddo i Queen's Dragoon Guards yn 2005, newidiodd fy mywyd am byth tra ar batrôl yn Afghanistan.

Deffrais i fyd gwahanol, y peth cyntaf a sylwais oedd blas gwaed yn fy ngheg a sŵn gwichian uchel yn fy nghlustiau. Roedd y llwch fel llen yng nghefn y cerbyd felly wrth i'r sain yn fy nghlustiau leihau. Y peth cyntaf a glywais oedd fy nhîm yn sgrechian, rhywbeth sy'n dal i'm deffro yng nghanol y nos 12 mlynedd yn ddiweddarach.

Mae rygbi wedi fy helpu i ddod o hyd i fy hyder eto.

Ni chollais fy nghoes yn syth. Cefais fy nhrin yn Ysbyty Headley Court am bedair blynedd...

Darllenwch ymlaen yma: https://community.wru.wales/article/darren-carew-ive-no-regrets/

 

CLWB RYGBI YN DARPARU BWYD I’R GYMUNED

Er gwaethaf eu bodolaeth nomadaidd, mae Clwb Rygbi Cymry Caerdydd yn parhau i gryfhau eu bodolaeth yng nghalon cymuned Caerdydd gyda'u hymdrechion elusennol.

Wedi eu hysgogi gan lwyddiant eu her redeg, nôl ym mis Mai - a oedd yn ceisio cysylltu trigolion a staff cartrefi gofal ledled Cymru â'u teuluoedd - mae'r clwb bellach wedi gosod ei olygon ar helpu i fynd i'r afael â thlodi bwyd yn y ddinas.

Yn ystod y penwythnos diwethaf, gwahoddwyd aelodau'r clwb i ddod â bwyd a diod i lawr - yn ogystal â chynhyrchion hylendid personol - i ystafelloedd newid y clwb ym Meysydd Pontcanna. Hefyd anogwyd busnesau lleol i gefnogi a lledaenu'r gair drwy gyfryngau cymdeithasol.

O ystyried ei lwyddiant, mae potensial iddo ddod yn ddigwyddiad blynyddol i helpu pobl mewn angen ar draws y ddinas.

Cafodd eu hachos eleni gymorth mawr gyda 200 o blant yn cymryd yn yr hyfforddiant i blant iau ddydd Sul - pob un ohonynt yn cyfrannu.

Mwy yma: https://community.wru.wales/2020/11/17/clwb-rygbis-food-drive-success/

 

COFFÂD: IAN FORD

Wrth feddwl yn ôl i’r foment enwog pan gurodd Casnewydd y Crysau Duon yn 1963, mae cyfraniad ail reng Cymru Ian Ford, sydd wedi marw yn 91 oed, yn anochel ar wefusau pawb a welodd y fuddugoliaeth 3-0 yn Rodney Parade.

Er mai cic adlam John Uzzell gaiff ei nodi yn y penawdau, sylfaen y fuddugoliaeth fwyaf yn hanes rygbi clybiau Cymru oedd y ffordd yr oedd Ford ei bartner ail reng Brian Price a'r blaenasgellwr Glyn Davidge yn gwrthsefyll chwaraewyr Seland Newydd.

Disgrifiodd un o'i gyd-chwaraewyr o'r diwrnod gwych hwnnw, Stuart Watkins, Ford fel "cawr o ddyn" am y ffordd yr oedd yn sefyll i fyny i’r Crysau Duon a oedd yn cynnwys rhai o'r enwau mwyaf yn rygbi'r byd.

Mwy yma: https://www.wru.wales/2020/11/obituary-ian-ford/

 

I GLOI... UN CAP NEU 50, MAEN NHW I GYD YN WERTHFAWR

 

Tomas Francis yn myfyrio ar ei 50fed cap yn Nulyn yn erbyn Iwerddon yng ngêm agoriadol Cwpan Cenhedloedd YR Hydref:

https://www.wru.wales/video/francis-reflects-on-50th-cap/

Mae maswr Bristol Bears Calum Sheedy yn llawn balchder ar ôl ennill y cyntaf o'r hyn a fydd yn sicr yn niferus:

https://www.wru.wales/video/sheedy-proud-of-first-wales-cap/

Efallai eu bod wedi colli yn ei gêm gyntaf dros Gymru yn erbyn yr Alban ym Mharc y Scarlets, ond mae rheng ôl Gleision Caerdydd Shane Lewis-Hughes yn dal i edrych yn ôl heb ddim ond atgofion da o'r dydd:

https://community.wru.wales/video/lewis-hughes-reflects-on-first-cap/

A bydd McNicholl yn ceisio ychwanegu at ei bedwar, wrth i Botham anelu am ei gap cyntaf:

https://www.wru.wales/2020/11/wales-call-ups-for-mcnicholl-and-botham/

There doesn't appear to be any tagged photos.

Upload and Tag Photos

Comment
You must be signed in to add comments
Comments